Ffit Conwy yn lansio aelodaeth unigryw newydd
Premium Image for web
Ar 1 Awst 2024, bydd Gwasanaethau Hamdden Ffit Conwy Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cyflwyno Ffit Conwy Premiwm i’w hystod o opsiynau aelodaeth.
Mae’r aelodaeth uwch yn rhoi 7 niwrnod o flaenoriaeth ar gyfer archebu lle ym mhob un dosbarth Ymarfer Corff mewn Grŵp mae Ffit Conwy yn ei gynnig, yn ogystal â mynediad unigryw i blatfform newydd sbon Buddion Premiwm Ffit Conwy.
Mae’r aelodaeth yn gadael i chi ddefnyddio pob un o’r 10 canolfan sydd gennym ni yn Sir Conwy, saith campfa, pedwar pwll nofio a thros 200 o wersi ymarfer corff yr wythnos, dan arweiniad hyfforddwr a thros y we. Mae pob canolfan yn cynnig rhywbeth gwahanol ac mae’r aelodaeth hon yn gadael i chi fanteisio ar y cyfleusterau a’r gweithgareddau gwych sydd gan Gonwy i’w cynnig.
Mae Mark Orme, Rheolwr Hamdden ar gyfer Ffitrwydd, yn egluro:
“P’un ai oes arnoch chi eisiau cymryd rhan yn un o’n dosbarthiadau ffitrwydd, gweithio ar eich amseroedd nofio neu chwysu chwartiau yn y gampfa, mae’r aelodaeth hon yn ddelfrydol."
“I’r rheiny sy’n mwynhau ymarfer corff mewn grŵp bob wythnos, byddwch yn cael y fantais o allu archebu lle wythnos ymlaen llaw – bedwar diwrnod cyn pob aelod arall."
“Gyda buddion Premiwm mae cannoedd o gynigion a gostyngiadau unigryw gan ystod eang o frandiau blaenllaw ym meysydd chwaraeon, ffitrwydd a ffordd o fyw.”
Aelodau presennol Ffit Conwy: Os oes gennych danysgrifiad Debyd Uniongyrchol misol i Ffit Conwy ar hyn o bryd a’ch bod yn dymuno uwchraddio i Ffit Conwy Premiwm, dim ond trwy gysylltu â’n Canolfan Gyswllt Gwasanaethau Hamdden drwy e-bost neu dros y ffôn y gallwch wneud hynny. Y manylion cyswllt yw 0300 456 95 25 neu hamdden.leisure@conwy.gov.uk.
Aelodau newydd: Gall aelodau newydd gofrestru drwy unrhyw un o’r dulliau presennol, gan ddefnyddio’r wefan ymuno adref, yn nerbynfa’r Ganolfan Hamdden neu drwy gysylltu â Chanolfan Gyswllt ein Gwasanaethau Hamdden ar 0300 456 95 25.
Telerau Ac Amodau: https://ffit.secure.conwy.gov.uk/cy/Access-to-Information/Ffit-Conwy-Membership-Terms-and-Conditions.aspx