Rhaglen Nofio'n Ddiogel, Porth Eirias, Bae Colwyn
Swim Safe Image cy
Padlfyrddio wrth sefyll, syrffio achub bywydau, caiacio, bod yn ddiogel ar y traeth
Mae sesiynau yn cael eu harwain gan hyfforddwyr cymwys. Darperir yr holl offer.
Oedran: 8-14
Cost: £15 y sesiwn
Archebwch ar-lein.
Sesiynau agored
Mae’r sesiynau hyn ar gyfer pawb, heb ddim neu fawr ddim addasiadau yn yr amgylchedd, yr offer neu ddarpariaeth y sesiwn. Yn aml wedi’u dylunio ar gyfer pobl nad ydynt yn anabl ond wedi’u darparu’n gynhwysol fel y gall pobl anabl gydag amhariadau cymedrol ymgysylltu a chymryd rhan yn yr un gweithgaredd ar yr un pryd.
Sesiynau y bore
- Dyddiadau: 31 Gorffennaf, 5 Awst, 19 Awst, 21 Awst
- Amser: 9:30am tan 12pm
Sesiynau y prynhawn
- Dyddiadau: 31 Gorffennaf, 12 Awst, 14 Awst
- Amser: 1pm tan 3:30pm
Sesiynau gallu cymysg
Mae cyfranogwyr â gallu amrywiol yn cymryd rhan yn yr un gweithgaredd ar yr un pryd. Er bod pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl yn cymryd rhan yn yr un sesiwn, efallai bod y rheolau neu offer wedi cael eu haddasu ar gyfer unigolion penodol er mwyn helpu i hyrwyddo cynhwysiant. Bydd chwaraewyr ifanc nad ydynt yn anabl neu gydag ychydig o amhariad yn aml yn cefnogi cyfranogwyr ifanc sydd ag amhariadau mwy sylweddol gan ganolbwyntio ar waith tîm.
Sesiynau y bore
- Dyddiadau: 7 Awst, 12 Awst
- Amser: 9:30am tan 12pm
Sesiynau y prynhawn
- Dates: 29 Gorffennaf, 21 Awst
- Amser: 1pm tan 3:30pm
Sesiynau i bobl anabl yn benodol
Darperir y sesiynau hyn yn benodol ar gyfer pobl ifanc anabl gan gydnabod mewn rhai amgylchiadau y bydd pobl yn elwa’n fwy ar amgylchedd gydag un neu fwy o newidiadau sylweddol yn y ffordd y darperir y gweithgaredd fel arfer. Gyda staff ychwanegol, gall y sesiynau penodol ddarparu mwy o gymorth a/neu strwythur i bobl ifanc sydd ag amhariadau mwy difrifol, a chreu profiad mwy gwerthfawr iddynt.
Sesiynau y bore
- Dyddiadau: 29 Gorffennaf, 14 Awst
- Amser: 9:30am tan 12pm
Sesiynau y prynhawn
- Dyddiadau: 7 Awst, 19 Awst
- Amser: 1pm tan 3:30pm
Archebwch ar-lein.
I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch 0300 456 95 25 neu anfonwch e-bost at email hamdden.leisure@conwy.gov.uk.