Hwyl dros yr Hanner Tymor!
May Half Term Activities Cy
Hwyl dros yr Hanner Tymor!
Gweithgareddau yn ystod gwyliau’r ysgol Ffit Conwy i guro’r diflastod!
Rhaid archebu lle ymlaen llaw:
Ffon: 0300 456 95 25
Ebost: Hamdden.leisure@conwy.gov.uk
Gwersyll Chwaraeon
Dydd Mawrth 27 - Dydd Gwener 30 Mai, 8:30am – 4:30pm
LLANDUDNO: Canolfan Nofio & Canolfan Hamdden John Bright
5 – 11 oed
Cychwyn gyda nofio bob dydd 9am–10am, yna diwrnod o hwyl chwaraeon yng Nghanolfan Hamdden John Bright!
Amrywiaeth o chwaraeon gan hyfforddwyr cymwys gan gynnwys: gêm osgoi’r bêl, trampolinio, sglefrio ar olwynion, chwaraeon raced a chwaraeon tîm (Amserlen ddyddiol).
Cost: £27.50 y diwrnod (neu os yw’r plentyn ar Ddebyd Uniongyrchol Nofio: £25.30).
Gwersyll Sgiliau Nofio gyda Hyfforddwr Perfformiad o Sefydliad Nofio Cymru
Canolfan Nofio Llandudno
Dydd Mawrth 27 Mai - Dydd Gwener 30 Mai
10am i 12pm
Mae’r sesiynau wedi’u hanelu at blant sydd wedi cychwyn Ton 6/7, Nofio Ffit Iau, Academi, neu Glwb Nofio.
Mae’r Gwersyll Sgiliau Nofio yn gyfle gwych i’ch plentyn wella ei dechneg strôc a chael dealltwriaeth ddyfnach o nofio fel camp, gyda hyfforddiant ac arweiniad ymarferol gan ein staff hyfforddi cymwys. Hyfforddiant ar y Tir - Hyfforddiant Nofio mewn pwll 25m.
Cost: £50
Gwersyll Aml - Chwaraeon
Canolfan Hamdden Dyffryn Conwy, Llanrwst
Dydd Iau 29 Mai 2025
10:00am - 2:30pm
Oed: 5+
Plant i wisgo dillad addas a chlymu gwallt hir yn ôl. Hefyd, dewch â bocs bwyd a digon o ddiod.
Cost: £19.80
Gwersyll Gymnasteg
Canolfan Hamdden Dyffryn Conwy, Llanrwst
Dydd Gwener 30 Mai 2025
10:00am - 2:30pm
Oed: 5+
Treuliwch eich diwrnod gyda’n hyfforddwyr gymnasteg hwyliog a brwdfrydig!
Mae ein gwersylloedd gymnasteg yn llawn antur wrth archwilio ystod eang o offer gymnasteg, datblygu sgiliau gymnasteg ynghyd â digon o hwyl a gemau. Perffaith ar gyfer y rhai sy’n hoffi gymnasteg! Plant i wisgo dillad addas a gwallt hir wedi’i glymu’n ôl. Hefyd dewch â sanau a bocs bwyd gyda digon i’w yfed.
Cost: £19.80
Newydd - Hyrox I'r Teulu Sesiynau hyffordi i oedolion a phlant
Canolfan Hamdden Colwyn (campfa a gysylltir yn swyddogol â hyrox)
Sesiynau Blasu: Hanner Tymor Mis Mai
- Dydd Mawrth 27 Mai, 17:00-17:45
- Dydd Mercher 28 Mai, 10:00-10:45
- Dydd Iau 29 Mai, 17:00-17:45
- Dydd Sadwrn 31 Mai, 10:00-10:45
Cost (Fesul Sesiwn):
- £5 i aelodau a’r rhai nad ydynt yn aelodau
- Caniateir lle i un plentyn (8-11) gyda phob oedolyn sy’n talu
Uchafswm o 6 lle (cyfanswm o 12 gydag oedolyn a phlentyn)
Mae ein gweithgareddau yn ystod gwyliau’r ysgol yn gyfle perffaith i gadw eich plant yn actif, eu diddanu a chael hwyl!
Gweithgareddau Iau 11-15
Canolfan Hamdden Cyffordd Llandudno
- Dydd Mawrth 27 Mai
- 16:00 - 16:45: Clwb Codi Pwysau Ieuenctid (Cryfder)
- Dydd Mercher 28 Mai
- 16:00 - 16:45: Clwb Codi Pwysau Ieuenctid (Hybrid)
- Dydd Iau 29 Mai
- 16:00 - 16:45: Clwb Codi Pwysau Ieuenctid (Cryfder)
- Dydd Gwener 30 Mai
- 16:30 - 17:30 BoxFfit Iau
Canolfan Hamdden Colwyn
- Dydd Mawrth 27 Mai
- 13:00 - 15:00: Chwaraeon Raced Ieuenctid*
- 15:30 - 16:15: Clwb Codi Pwysau Ieuenctid (Cryfder)
- Dydd Mercher 28 Mai
- 15:30 – 16:15: Clwb Codi Pwysau Ieuenctid (Hybrid)
- Dydd Iau 29 Mai
- 13:00 - 15:00: Chwaraeon Raced Ieuenctid*
- 15:30 - 16:15: Clwb Codi Pwysau Ieuenctid (Cryfder)
*(yng Nghanolfan Tennis James Alexander Barr)
Canolfan Hamdden Abergele
Sesiynau galw heibio pêl-droed - cae 3G
Bob dydd:
Dydd Mawrth 27 Mai tan dydd Gwener 30 Mai
13:00 - 15:00
Man diogel i chwarae gyda ffrindiau dros hanner tymor, sesiynauanffurfiol. Cost: Mae’r sesiynau wedi’u cynnwys yn yr aelodaeth neu bris talu wrth fynd o £3 y sesiwn. Rhaid archebu lle.
Archebwch eich sesiynau rŵan ar Ap Ffit Conwy! Ffon: 0300 456 95 25 Ebost: hamdden.leisure@conwy.gov.uk