Gweithgareddau iau (11-15) yr hanner tymor
Half-term-junior
Mae Tîm Ffit Conwy wedi trefnu sesiynau ychwanegol ar gyfer ein haelodau iau yr hanner tymor hwn. Cliciwch ar bob adran isod i ddarganfod beth sydd ymlaen yn eich canolfan hamdden agosaf!
Cost: Wedi'i gynnwys yn yr Aelodaeth Iau (£17.35 y mis, debyd uniongyrchol), neu £4.35 i'r rhai nad ydynt yn aelodau.
Amserlenni
Gwybodaeth am y sesiynau
Clwb Codi Pwysau i Ieuenctid
Yng Nghlwb Codi Pwysau i Ieuenctid, gall athletwyr ifanc 11-15 oed ddatblygu eu cryfder, techneg a hyder mewn amgylchedd cefnogol a hwyliog.
Bydd ein hyfforddwyr profiadol yn darparu rhaglenni hyfforddi wedi’u teilwra sy’n canolbwyntio ar dechnegau codi, diogelwch a ffitrwydd corfforol. Ein nod yw helpu pobl ifanc i gyflawni eu gorau ac i feithrin cariad gydol oes tuag at ffitrwydd.
Os ydych yn ddechreuwr neu’n edrych i wella eich sgiliau ymhellach, ymunwch â ni i adeiladu ar eich cryfder, i ddysgu sgiliau newydd ac i wneud ffrindiau ar yr un pryd!
Chwaraeon raced
Dewch i geisio gwahanol fathau o chwaraeon raced (badminton, pickleball a thennis byr). Darperir yr holl offer.
Sesiynau pêl-droed
Mwynhewch ofod diogel i chwarae gyda ffrindiau dros wyliau’r haf, sesiynau heb strwythur ond staff yn bresennol.
Archebwch eich sesiwn ar ap Ffit Conwy neu drwy ffonio 0300 456 95 25
I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at hamdden.leisure@conwy.gov.uk