Sesiynau haf Ffit Conwy
WelshBanner
Mae’r haf yn nesáu! Ydych chi’n chwilio am weithgareddau bach da i’ch plant dros y gwyliau haf? Gall Ffit Conwy eich helpu.
Gyda sesiynau at ddant pawb ac amrywiaeth da o weithgareddau a gemau sy’n siŵr o losgi llawer o egni! Dyma ein sesiynau haf ar gyfer plant 5-11 oed.
Sesiynau hyfforddiant pêl-droed, Canolfan Hamdden Abergele
- Pryd: 6 a 7 Awst, 10am tan 3pm
- Pris: £22
Gwersyll Chwaraeon! Llandudno, Canolfan Hamdden John Bright
- Pryd: bob dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Mercher, dydd Iau a dydd Gwener yn ystod gwyliau’r haf (ac eithrio gŵyl y banc), 8:30am tan 4:30pm. Gollwng plant yng Nghanolfan Nofio Llandudno am 8:30am
- Pris: £27.50 y diwrnod neu £25.30 y diwrnod os ydych chi’n talu am wersi nofio i’ch plentyn drwy ddebyd uniongyrchol
Gwersyll Chwaraeon! Bae Colwyn, Canolfan Ddigwyddiadau Eirias
- Pryd: bob dydd Llun, dydd Iau a dydd Gwener yn ystod gwyliau’r haf (ac eithrio gŵyl y banc), 8:30am tan 4:30pm
- Pris : £27.50 y diwrnod neu £25.30 y diwrnod os ydych chi’n talu am wersi nofio i’ch plentyn drwy ddebyd uniongyrchol
Gwersyll gymnasteg, Canolfan Hamdden John Bright
- Pryd: bob dydd Mawrth yn ystod gwyliau’r haf, 10am tan 3pm
- Pris: £22 y diwrnod
Hyfforddiant trampolinio, Canolfan Hamdden Abergele
- Pryd: bob dydd Gwener yn ystod gwyliau’r haf. Sesiwn 1 o 10am tan 12pm, sesiwn 2 o 12:30pm tan 2:30pm
- Pris: £14.50 y sesiwn
Gwersyll sgiliau nofio, Canolfan Nofio Llandudno
- Pryd: dydd Llun 21 Gorffennaf tan dydd Gwener 25 Gorffennaf a dydd Llun 4 Awst tan dydd Gwener 8 Awst, 10am tan 12pm
- Pris: £62.50
- Mae’r sesiynau wedi’u hanelu at blant sydd yn Nhon 6/7 ar hyn o bryd, Nofio Ffit Iau, Academi, neu Glwb Nofio.
Gwersyll Aml-chwaraeon, Canolfan Hamdden Dyffryn Conwy
- Pryd: dydd Gwener 1 Awst a dydd Gwener 8 Awst, 10am tan 2:30pm
- Pris: £19.80 y sesiwn
Gwersyll gymnasteg, Canolfan Hamdden Dyffryn Conwy
- Pryd:
- dydd Iau 31 Gorffennaf, 12:30pm tan 5pm
- dydd Iau 7 Awst, dydd Iau 14 Awst a dydd Iau 21 Awst, 10am tan 2:30pm
- Pris: £19.80 y sesiwn
Ffoniwch 0300 456 95 25 i archebu lle!