Title

Text

Canolfan Hamdden John Bright

Mae Canolfan Hamdden John Bright wedi’i lleoli drws nesaf i’r ysgol uwchradd yn Llandudno, ac mae amrywiaeth eang o gyfleusterau a gweithgareddau ar gael yno i bawb o bob oed. Mae’r ganolfan hamdden eang ar gael i’w llogi ar gyfer amrywiaeth o chwaraeon a gellir hefyd archebu partïon pen-blwydd yno. Mae amserlen amrywiol o ddosbarthiadau ffitrwydd yn rhoi cyfle i chi gadw’n heini a rhoi cynnig ar rywbeth newydd.

Yn ogystal, mae modd llogi 2 gwrt sboncen cefn gwydr yn y ganolfan, sydd â waliau symudol, fel bod modd chwarae gemau dyblau, yn ogystal â chyrtiau badminton a thennis bwrdd

Ar gyfer y sawl sy’n ffafrio bod allan yn yr awyr agored, mae gan y ganolfan hamdden ystod o gaeau synthetig, sydd ar gael i’w harchebu drwy gydol y flwyddyn. (Ar gael gyda’r nosau ac ar benwythnosau – defnyddir llifoleuadau dros y misoedd tywyll).  

Cyfleusterau

  • Neuadd chwaraeon

  • Cyrtiau sboncen

  • Cyrtiau Badminton

  • Tenis Bwrdd

  • Ystafelloedd cyfarfod

  • Caeau synthetig a 3G awyr agored

 

Canolfanau Eraill