Title

Text

Canolfan Hamdden Dyffryn Conwy

Mae Canolfan Hamdden Dyffryn Conwy wedi’i leoli ger yr ysgol uwchradd yn Llanrwst. Mae’n cynnig neuadd chwaraeon i’w logi ar gyfer gweithgareddau a chwaraeon amrywiol a champfa sy’n cynnig ystafell bwysau ac offer cardio. Mae’r dosbarthiadau ffitrwydd a gynigir yn y ganolfan yn amrywiol ac yn cynnig cyfle i chi roi cynnig ar nifer o ddosbarthiadau gwahanol.

Os ydych chi’n mwynhau chwaraeon raced, mae cyrtiau ar gael i’w harchebu ar gyfer sboncen a badminton.

I’r rhai sy’n hoff o’r awyr agored, mae gan y ganolfan hamdden gae 3G i’w logi, yn ogystal â chwrt MUGA i’w archebu ar gyfer gweithgareddau amrywiol.

Facilities

 

Canolfanau Eraill