60+ Cynllun Hamdden Egnïol
60pluslogoMae Ffit Conwy’n gweithio gyda Chwaraeon Cymru i helpu i ddarparu cynnig hamdden cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl dros 60 oed.
Mi fydd yn annog gweithgarwch corfforol a dewisiadau iach o fyw, dull sy’n anelu at leihau anghydraddoldebau iechyd ac arwahanrwydd cymdeithasol.
Mae gennym raglen o weithgareddau yn gweithredu mewn canolfannau hamdden a lleoliadau cymunedol ar draws Conwy.
Gweithgaredd | Disgrifiad |
Aerobeg Cadair |
Sesiynau mewn cadair sy’n ddelfrydol i bobl hŷn neu bobl lai abl o unrhyw oed. Maent yn sesiynau ymarferion grŵp llawn hwyl a mwynhad wedi’u gosod i gerddoriaeth a’r nod yw gwella symudedd, cydbwysedd, cryfder a hyblygrwydd |
Cerdded Nordig |
Grŵp cerdded awyr agored cymdeithasol. Mae cerdded Nordig yn fersiwn corff cyfan o gerdded y gall rhai nad ydynt yn athletwyr, a rhai mwy athletaidd, ei fwynhau fel gweithgaredd corfforol sy'n hyrwyddo iechyd. Caiff y gweithgaredd ei berfformio gyda pholion cerdded wedi eu dylunio’n arbennig, sy’n debyg i bolion sgïo. |
Cylched Aur |
Ymarfer mewn gorsafoedd. Mae’r gorsafoedd wedi eu dylunio i fod ar lefel is a chaiff pobl fynd ar eu cyflymder eu hunain. |
Sesiynau tennis |
Sesiynau tennis talu a chwarae cymdeithasol |
Sesiynau Badminton |
P’un a ydych yn dewis chwarae gemau sengl neu ddwbl, mae badminton yn ymarfer gwych i’r corff cyfan, mae’n helpu i hyrwyddo iechyd a lles ac yn gallu llosgi hyd at 450 o galorïau mewn awr. Mae badminton yn weithgaredd hwyliog a hyblyg. Mae’r sesiynau hyn yn gyfle gwych i gadw’n heini a chymdeithasu gyda ffrindiau a theulu. |
Ioga Ar-lein |
Dosbarthiadau ioga ‘zoom’ byw rhyngweithiol a gaiff eu cynnal yn wythnosol gyda hyfforddwr o glydwch eich cartref eich hun. Mae’n addas ar gyfer pob lefel a gallu. Unwaith y byddwch wedi cofrestru, byddwch yn derbyn gwahoddiad Zoom dros e-bost i fynychu dosbarth ar-lein. |
Pilates Ar-lein |
Dosbarth YouTube y gellir cael mynediad ato ar unrhyw bryd o fewn 7 diwrnod, gyda phob dosbarth yn newid bob wythnos. Gweithgaredd hawdd ei ddilyn y gellir ei ddefnyddio cynifer o weithiau ag y dymunwch o fewn y 7 diwrnod. Unwaith y byddwch wedi cofrestru, byddwch yn derbyn dolen yn cynnwys gwybodaeth am y sianel YouTube. Mae’r dolenni’n newid bob wythnos. |
E-feicio |
Sesiynau e-feicio wythnosol. Mae’r lleoliadau’n cynnwys llwybr hyfryd o amgylch Llyn Brenig i ddechreuwyr, neu lwybr mwy heriol yn Llanrwst yn wythnosol. Mae teithiau wedi’u tywys yn cynnwys offer a staff cymwys/profiadol i’ch helpu drwy gydol y gweithgaredd. |
Rydym ni wastad yn chwilio am ffyrdd i wella ein gwasanaeth felly, os hoffech chi ddweud eich dweud ar ein cynnig presennol, llennwch yr holiadur isod:
Llennwch yr holiadur