Gwobrau Chwaraeon 2024
Webpage header
Mae’r Gwobrau Chwaraeon wedi eu llunio i gydnabod ac anrhydeddu pobl dalentog ym maes chwaraeon, clybiau chwaraeon, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr yng Nghonwy.
Dyddiad cau: ar gau
Seremoni Wobrwyo: Dydd Gwener 22 Tachwedd 2024 Venue Cymru, Llandudno
Y categorïau yw:
- Campwr Iau y Flwyddyn
- Campwraig Iau y Flwyddyn
- Tîm Chwaraeon Ieuenctid
- Gwobr Llwyddiant Arbennig
- Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn
- Campwr Hŷn y Flwyddyn
- Campwraig Hŷn y Flwyddyn
- Tîm Chwaraeon Hŷn
- Hyfforddwr y Flwyddyn
- Gwasanaethau i Chwaraeon
- Digwyddiad y Flwyddyn
Gwobrau Chwaraeon Conwy 2024 - Nawdd
Byddwch yn noddwr Gwobrau Chwaraeon Conwy - dathlwch ddoniau chwaraeon Conwy gyda ni.Ym mis Tachwedd 2024, fe fyddwn yn dathlu Gwobrau Chwaraeon Conwy a gynhelir yn flynyddol. Mae’r cyfle wedi codi i gwmnïau lleol noddi categorïau’r gwobrau yn y digwyddiad sefydledig hwn.
Wedi’i gynllunio i gydnabod ac anrhydeddu’r rhai sy’n dalentog ym maes chwaraeon, clybiau chwaraeon, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr yng Nghonwy, mae’n ddigwyddiad mawreddog yn ein calendr, gyda dros 300 o bobl yn mynychu’r seremoni wobrwyo i ddathlu llwyddiannau lleol.
Yn gyfnewid am noddi categori gwobr bydd eich cwmni yn cael sylw yn y cyfnod sy’n arwain at y digwyddiad, drwy gydol y digwyddiad ac wedi’r digwyddiad sy’n cynnwys:
- Sylw i’r gwobrau drwy’r llwyfannau cyfryngau cymdeithasol perthnasol.
- 2 docyn i’r seremoni a 2 docyn i’r lletygarwch VIP.
- Bydd logo’r cwmni’n cael ei ddefnyddio ar yr holl ddeunydd sy’n ymwneud â’i gategori.
- Bydd y cwmni’n cael ei grybwyll yn y datganiadau perthnasol i’r wasg.
- Proffil a logo’r cwmni yn rhaglen y digwyddiad.
- Gofod arddangos yn y digwyddiad ar gyfer y cwmni.
I gael rhagor o wybodaeth anfonwch e-bost at: Caroline.Jones@conwy.gov.uk
Gwobrau Chwaraeon Conwy 2024: YouTube