top-skip-iconNeidio i’r cynnwys
Title

Text
cy Cartref Datblygu Hamdden Cynhwysiant Dull Cynhwysiant Gweithgareddau Ffit Conwy
start content

Dull Cynhwysiant Gweithgareddau Ffit Conwy

Mae Dull Cynhwysiant Gweithgareddau Ffit Conwy’n seiliedig ar amryw ddulliau cynhwysiant i gynorthwyo pobl anabl yn lleol, a’u teuluoedd, i ddod o hyd i’r darparwyr mwyaf addas yn yr ardal. Mae’n eithriadol o bwysig dod o hyd i’r darparwyr mwyaf addas gan y bydd yn fwy tebygol fod pobl yn cael profiad gwerth chweil ac yn dal ati wedyn. 

Deallwn fod pob unigolyn yn wahanol ac na fydd yr un dull yn addas i bawb wrth ddarparu cyfleoedd a’u hwyluso. Wrth gydnabod bod angen gwahanol fathau o sesiynau, clybiau a gwasanaethau, gallwn gyfeirio pobl at gyfleoedd yn fwy effeithiol yn ogystal â sicrhau fod pobl anabl yn rhan annatod o’r drefn gynllunio ar gyfer datblygiadau newydd.

Er mwyn gwneud Conwy’n wirioneddol gynhwysol, mae arnom angen arfer dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn lle bynnag y bo modd, a’r nod gyda Dull Cynhwysiant Gweithgareddau Ffit Conwy yw gosod unigolion yn ganolog i’w profiadau eu hunain. Wrth arfer y dull hwn, nid ydym yn argymell unrhyw weithgareddau penodol i neb ond yn hytrach yn darparu amrywiaeth o ddewisiadau i’w hystyried.

Ffit Conwy Inclusion - Adapted Cycling

Mae Dull Cynhwysiant Gweithgareddau Ffit Conwy’n gosod yr unigolyn yn ganolog i’r broses wrth nodi pedwar o wahanol fathau o weithgareddau. Mae pob math o weithgaredd mor werthfawr â’i gilydd ac yn meddu ar ei rinweddau ei hun, ond drwy eu gosod mewn grwpiau fel hyn mae’n fwy tebygol y daw pobl anabl o hyd i ddarparwyr a chael profiad sy’n rhoi mwynhad a budd iddynt. 

Ffit Conwy Activity Inclusion Mode

Nid yw dulliau cynhwysiant gweithgareddau wedi’u dylunio i gadw pobl ar wahân, ond yn hytrach i sicrhau fod pawb yn cael cyfle i gymryd rhan mewn gweithgaredd gwerth chweil. Wrth gydnabod bod arnom angen amrywiaeth o ddarparwyr ar gyfer amrywiaeth o bobl rydym yn llawer mwy tebygol o gynnwys pob grŵp ag amhariad, boed hynny’n amhariad deallusol, corfforol neu synhwyraidd, yn ogystal ag amrywiaeth fwy helaeth o alluoedd a phobl ag anghenion cymhleth. 

Ni chyfyngir neb i un math penodol o weithgaredd, a gallant gyfranogi o sawl gwahanol fath ar yr un pryd. Os oes rhywun heb gymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol na chwaraeon o’r blaen, efallai y byddai’n well ganddynt roi cynnig ar un math o weithgaredd yn gyntaf cyn mynd ymlaen i rai eraill. Mae’r hyblygrwydd yn galluogi pobl i gael mynediad at yr amgylchedd iawn ar unrhyw adeg benodol.

Wrth gyfeirio pobl at wasanaethau eraill yn fwy pendant, mae’n fwy tebygol y deuant o hyd i’r hyn y dymunant yn gynt. 

Mae’r dull yn berthnasol i bob sefydliad sy’n darparu gweithgaredd corfforol a chwaraeon yng Nghonwy, gan gynnwys clybiau cymunedol dan arweiniad gwirfoddolwyr, darparwyr gweithgareddau wedi’u hariannu, sefydliadau preifat, canolfannau hamdden, elusennau, cyrff llywodraethu cenedlaethol ac unrhyw sefydliad arall sy’n bwriadu cynorthwyo pobl anabl i fyw bywydau iachach a mwy egnïol. 

Yn ogystal â chyfeirio pobl at weithgareddau, gellir arfer y dull wrth gynorthwyo sefydliadau i gynllunio eu darpariaethau, eu rhaglennu a’u datblygu. Os nad yw sefydliad ond yn darparu un math o weithgaredd drwy ei wasanaethau presennol, mae’n annhebygol y gall fodloni anghenion pawb yn ein cymunedau. Mae clybiau bach dan arweiniad gwirfoddolwyr hefyd yn fwy tebygol o hyrwyddo’r ffaith bod eu gweithgaredd yn gynhwysol os gallant adnabod sut cynhelir eu sesiynau ac ar gyfer pwy y’u dyluniwyd.

Ffit Conwy Inclusion - Boccia

Mathau o Weithgareddau

Mae’r pedwar math o weithgaredd yn Null Cynhwysiant Gweithgareddau Ffit Conwy’n seiliedig ar yr hyn sydd eisoes ar gael a’r hyn sy’n mynd i gynnig y mwyaf o amrywiaeth.

13. Open Arrow - En
Mae’r sesiynau hyn ar gyfer pawb, heb ddim neu fawr ddim addasiadau yn yr amgylchedd, yr offer neu ddarpariaeth y sesiwn.

Yn aml wedi’u dylunio ar gyfer pobl nad ydynt yn anabl ond wedi’u darparu’n gynhwysol fel y gall pobl anabl gydag amhariadau cymedrol ymgysylltu a chymryd rhan yn yr un gweithgaredd ar yr un pryd.

15. Adapted Arrow v2 - En
Sesiynau sydd wedi’u haddasu’n sylweddol i weddu pobl anabl a grwpiau gydag amhariadau penodol.

Bydd y sesiwn yn seiliedig ar weithgaredd neu chwaraeon cyffredin gyda’r un egwyddorion, ond bydd yn edrych yn wahanol oherwydd offer sydd wedi’i ychwanegu neu’i addasu fel cadeiriau olwyn neu feiciau anghonfensiynol. Gall pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl gymryd rhan yn y gweithgaredd gyda’i gilydd. 

17. Mixed Ability Arrow v2 - En
En Mae cyfranogwyr â gallu amrywiol yn cymryd rhan yn yr un gweithgaredd ar yr un pryd. Er bod pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl yn chwarae’r un gêm, efallai bod y rheolau neu offer wedi cael eu haddasu ar gyfer unigolion penodol er mwyn helpu i hyrwyddo cynhwysiant.

Bydd chwaraewyr nad ydynt yn anabl neu gydag ychydig o amhariad yn aml yn cefnogi cyfranogwyr sydd ag amhariadau mwy sylweddol gan ganolbwyntio ar waith tîm.

19. Specific Arrow - En
Darperir y sesiynau hyn yn benodol ar gyfer pobl anabl gan gydnabod mewn rhai amgylchiadau y bydd pobl anabl yn elwa ar amgylchedd gydag un neu fwy o newidiadau sylweddol yn y ffordd y caiff y gweithgaredd ei ddarparu fel arfer.

Yn aml gyda chymhareb uwch o ran hyfforddwr/gwirfoddolwr i gyfranogwr, gall sesiynau penodol ddarparu mwy o gymorth a/neu strwythur ar gyfer pobl sydd ag amhariad mwy difrifol, gan greu profiad mwy gwerthfawr.


Ffit Conwy Inclusion - Cricket

 

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content