Canolfan Nofio Llandudno
Llun o Brif Bwll Nofio Llandudno
Mae Canolfan Nofio Llandudno wedi’i lleoli ger y promenâd, ac yn cynnwys dau bwll dan do, campfa a stiwdio ffitrwydd.
Mae ardal eang y pwll modern yn cynnig popeth sydd ei angen arnoch i fwynhau nofio. Mae’r prif bwll yn 25 metr o hyd, gydag 8 lôn ar gyfer cystadleuaeth ac mae’r ail bwll, y pwll teulu yn 20 metr o hyd, gyda 4 lôn. Mae lloriau symudol yn y ddau, fel eu bod yn rhai amlbwrpas.
Mae’r ganolfan yn cynnig amrywiaeth o sesiynau nofio, o sesiynau cyhoeddus i aerobeg dŵr a nofio ffit. Mae hefyd yn cynnig ystod eang o wersi nofio i bawb o bob oed.
Mae’r gampfa yn cynnwys yr holl offer ar gyfer hyfforddiant cardio a gwrthiant, ynghyd â pheiriannau Technogym a phwysau rhydd.
Mae’r stiwdio ffitrwydd yn gartref i’n sesiynau ‘Gravity Training’ gyda chyfarpar Total Gym Elevate Encompass™ (gweithio’r corff cyfan drwy ddefnyddio un peiriant yn unig).
Canolfanau Eraill