Nofio am Ddim y Lluoedd Arfog
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cynnig nofio am ddim i aelodau a chyn aelodau’r lluoedd arfog yn ystod sesiynau nofio cyhoeddus.
Telerau ac Amodau
- Y Lluoedd Arfog - aelodau sy'n gwasanaethu a chyn aelodau - unrhyw un sydd yn neu wedi gwasanaethu yn Lluoedd Arfog Ei Mawrhydi ar unrhyw un adeg (gan gynnwys Milwyr ar Wasanaeth Milwrol, Rheolaidd ac Wrth Gefn).
- Rhaid i holl gyn-filwyr y lluoedd arfog a’r rhai sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd gofrestru i gael CERDYN GOSTYNGIADAU AMDDIFFYN (www.defencediscountservice.co.uk) i fod yn gymwys i gael nofio am ddim. Unwaith y byddwch wedi derbyn eich cerdyn, ewch draw i’ch pwll nofio lleol, talwch y ffi fechan ac fe gewch eich cerdyn FFIT nofio am ddim i’r lluoedd arfog.
- Mae angen i bob aelod a chyn aelod ddarparu prawf o gyfeiriad, llenwi ffurflen gais cerdyn Ffit a thalu ffi weinyddu o £3.80.
- Mae’n rhaid dangos y cerdyn Ffit bob tro maent yn dymuno nofio.
- Mae gan aelodau a chyn aelodau o’r lluoedd arfog yr hawl i nofio am ddim yn ystod unrhyw amser nofio i’r cyhoedd drwy gydol y flwyddyn mewn unrhyw bwll nofio Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
- Codir tâl o £2.00 am bob cerdyn Ffit newydd.
- Mae gan reolwyr yr hawl i roi’r gorau i’r cynnig hwn ar unrhyw adeg.
- Os ydych dros 60 oed yna nid ydych yn gymwys i gael Cerdyn y Lluoedd Arfog.