top-skip-iconNeidio i’r cynnwys
Title

Text
cy Cartref Datblygu Hamdden Anabledd a Chwaraeon Cynhwysol yng Nghonwy
start content

Anabledd a Chwaraeon Cynhwysol yng Nghonwy

Mae gan Gonwy amrywiaeth eang, a rhai o'r cyfleoedd chwaraeon gorau yng Nghymru ar gyfer pobl anabl.

Mae yna ddarpariaethau cyfranogiad a pherfformiad  ar gael yn lleol ac rydym yn anelu i gefnogi darpariaeth gweithgareddau ar gyfer pob grŵp ag amhariad. Drwy hwyluso a chefnogi ystod o gyfleoedd a ddarperir gan bartneriaid gwahanol, gallwn roi dewis i bobl anabl, o bob gallu, o’r hyn maent yn ei wneud a phryd. Gyda sesiynau a chlybiau penodol i anabledd yn ogystal â chlybiau eraill sy’n gynhwysol i bawb o bob gallu, mae’n amser gwych i gymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgarwch corfforol yng Nghonwy.

Gwirfoddoli ym maes Anabledd a Chwaraeon Cynhwysol yng Nghonwy

Yn syml, ni fyddai chwaraeon cymunedol yn bodoli heb wirfoddolwyr. Mae galw enfawr, nawr yn fwy nag erioed, am wirfoddolwyr ymroddedig sydd eisiau helpu pobl anabl yn lleol i gael mynediad at gyfleoedd chwaraeon a gweithgarwch corfforol o ansawdd uchel yng Nghonwy.

Mae gwirfoddoli’n ffordd wych i ddatblygu eich hyder, dysgu sgiliau newydd, magu profiad, cwrdd â phobl newydd a rhoi rhywbeth yn ôl i’ch cymuned leol. Nid yw’n gwneud gwahaniaeth os nad ydych chi erioed wedi gwirfoddoli, neu heb ymwneud â chwaraeon o’r blaen. Mae sawl rôl ar gael ym maes cefnogi, mentora a hyfforddi, i’r rhai sy’n dymuno gwneud hynny.

I fynegi eich diddordeb ac i drefnu sgwrs am wirfoddoli ym maes anabledd a chwaraeon cynhwysol (heb unrhyw reidrwydd i ymrwymo) gofynnwn i chi lenwi’r ffurflen isod os gwelwch yn dda.

Mynegiant o ddiddordeb

InSport - Cynllun Achredu Chwaraeon Anabledd Cymru


Rhaglen achredu genedlaethol yw Insport sy’n cefnogi clybiau, cyrff llywodraethu cenedlaethol, sefydliadau trydydd sector ac awdurdodau lleoli i gynnig darpariaeth fwy cynhwysol.

Mae gan y broses Insport bedair haen a gall clybiau gyflawni statws rhuban, efydd, arian neu aur yn dibynnu ar lefel eu cynhwysiad.

Mae’r Tîm Datblygu Hamdden wrth law i weithio gyda chlybiau sydd eisiau dilyn llwybr insport a bod yn gynhwysol wrth ddarparu eu gweithgareddau.

Conwy (chwaraeonanableddcymru.com)

Clubs CY (chwaraeonanableddcymru.com)

Cyfres Insport

 
Bydd sesiynau Cyfres Insport yn cael eu cynnal ddydd Sul, 18 Medi 2022, rhwng 1.30pm a 4.00pm.

Cynhelir y sesiynau hyn yn The Barn, Eirias. Ffordd Abergele, Bae Colwyn, Conwy. LL29 7SP.

 

end content