Parti Rhedeg o Gwmpas yn yr Arena
Mae hi’n amser parti! Beth am adael i dîm Ffit Conwy gymryd y pwysau o gynnal parti oddi arnoch chi a rhoi parti bythgofiadwy i’ch plentyn.
Gall ein canolfannau hamdden a’n staff gynnig amrywiaeth o bartïon pen-blwydd i siwtio’ch anghenion. Gallwn gynnig:
- Parti rhedeg o amgylch yr Arena
- Parti Sumo yn yr Arena
- Parti Pêl-droed
- Parti rhedeg o amgylch
- Parti chwarae meddal
- Parti pwll
Mae’r gwahanol bartïon yn addas ar gyfer plant dan 5 yr holl ffordd i fyny i 15 oed a gellir bwcio am awr ar y tro. Gall rhai canolfannau hamdden gynnig pecynnau bwyd parti am bris fesul pen.
Os byddwch yn dewis dod â’ch bwyd eich hun yna mae gan bob canolfan ystafelloedd ar gael am dâl ychwanegol. Mae croeso i chi addurno’r ystafell ond gofynnwch am fwy o wybodaeth am hyn pan fyddwch yn bwcio.
Os gwelwch yn dda llenwch y ffurflen gyswllt neu ffoniwch eich canolfan hamdden i gael rhagor o wybodaeth am y partïon sydd ar gael.