top-skip-iconNeidio i’r cynnwys
Title

Text
cy Ffit Conwy - Fframwaith Prisiau
start content

Ffit Conwy - Fframwaith Prisiau

Mae Gwasanaethau Hamdden Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn wasanaeth lles anstatudol ac yn eitem o wariant yn ôl disgresiwn ar gyfer ei ddefnyddwyr. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf rydym ni wedi datblygu a buddsoddi yn y gwasanaeth, a hynny ar adegau yn ystod cyfnodau heriol iawn, fel COVID a’r argyfwng costau byw erbyn hyn.
 
Mae gwasanaethau hamdden, fel pob busnes arall, yn wynebu cyfnod ariannol anodd iawn oherwydd costau cynyddol e.e. costau cyflogau, ynni, cyflenwadau a gwasanaethau. Mae’r Gwasanaethau Hamdden yn sylweddoli y dylai’r argyfwng costau byw fod yn ddylanwad mawr ar ein ffioedd ar gyfer mis Ebrill 2023 ymlaen, i sicrhau bod pobl yn gallu fforddio defnyddio ein cyfleusterau. I gael cydbwysedd rhwng fforddiadwyedd a chynhyrchu mwy o incwm, mae ar y Gwasanaethau Hamdden eisiau barn y cyhoedd ar eu strategaeth brisio a’r penderfyniadau sydd angen eu gwneud i sicrhau ein bod ni’n cynhyrchu incwm i gadw’r gwasanaeth i fynd.

Arolwg Ar Lein

 

end content